Skip to content
Search jobs inside your AI agent. Claude, ChatGPT, Claude Code, Codex, Gemini, Cursor and Grok
Connect

Severn Trent

Cynllunydd Tactegol

Posted Updated 11 views

Description

AWN YN SYTH ATI

Yn Hafren Dyfrdwy, rydym yn angerddol am ddarparu dŵr glân a diogel a gofalu am yr amgylchedd ledled Cymru. Rydym yn fwy na chwmni dŵr – rydym yn dîm sydd wedi ymrwymo i gynaliadwyedd, arloesi a chefnogi’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Os ydych yn chwilio am rôl lle gallwch gael effaith wirioneddol a bod yn rhan o sefydliad sy’n cael ei yrru gan bwrpas, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

GADEWCH I NI DDWEUD MWY WRTHYCH

Mae gennym gyfle gwych i 3 Chynllunydd Tactegol ymuno â’n Tîm Cynllunio ac Amserlennu Seilwaith Anweledig, gan gefnogi ein timau gweithredol Trin Dŵr a Dŵr Gwastraff.

Eich prif ffocws fydd cynllunio a chydlynu gwaith ar gyfer ein timau gweithredol, gan sicrhau bod adnoddau’n cael eu trefnu’n effeithiol a bod gwaith â blaenoriaeth yn cael ei gwblhau. Byddwch yn rheoli amserlenni gwaith dyddiol ac at y dyfodol, yn cydlynu pryniannau ac yn monitro larymau ar draws yr ardal leol, gan drefnu presenoldeb gweithredol lle bo angen.

Byddwch hefyd yn rheoli newidiadau a gofynion adweithiol drwy gydol y dydd, gan weithio’n agos gyda chydweithwyr gweithredol a Rheoli’r Rhwydwaith. Gan ddefnyddio SAP, Salesforce a Power BI, byddwch yn helpu i gadw gwaith yn drefnus, cynnal gwybodaeth gywir am dasgau a darparu mewnwelediad i berfformiad.

Byddwch yn gweithio 38 awr yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Iau 07:30–15:45 a dydd Gwener 07:30–15:00.

YR HYN RYDYM YN CHWILIO AMDANO

Mae sgiliau a phrofiad yn bwysig, ond mae cymeriad, agwedd gadarnhaol ac agwedd ofalgar yn bwysig hefyd. Rydym yn croesawu pobl o bob cefndir ac yn dathlu unigoliaeth gan ein bod yn gwybod bod meddyliau, profiadau a chefndiroedd amrywiol yn ein helpu i ddysgu a gwasanaethu ein cymunedau’n well. Rydym yn chwilio am bobl sy’n cymryd rhan, sydd eisiau bod yn rhan o rywbeth mwy, ac sy’n gwneud gwahaniaeth oherwydd eu bod yn malio.

Ar gyfer y rôl hon, mae sgiliau pobl a threfnu yn hanfodol. Bydd angen i chi gydlynu’n hyderus â gwahanol dimau, rheoli blaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd ac aros yn ddigynnwrf pan fydd cynlluniau’n newid.

Bydd angen y canlynol arnoch hefyd:

  • Trwydded yrru ddilys yn y DU - bydd angen teithio ar draws ein safleoedd gweithredol
  • Sgiliau trefnu a blaenoriaethu cryf
  • Sgiliau pobl a chyfathrebu gwych
  • Agwedd gadarnhaol ac ymarferol at ddatrys problemau
  • Y gallu i weithio’n gyflym ac addasu i flaenoriaethau gweithredol sy’n newid

SUT Y BYDDWN YN EICH GWOBRWYO AC YN GOFALU AMDANOCH YN GYFNEWID

Nid swydd yn unig mohoni; mae’n yrfa. Rydym yn cynnig buddion sy’n gwobrwyo gwaith gwych a hyfforddiant sydd wedi ennill gwobrau i’ch helpu i gyflawni eich potensial. Hefyd, byddwch yn cyfrannu at yr amgylchedd a’r gymuned.

  • Cyflog: £30,000 - £33,000
  • 23 diwrnod o wyliau, gyda’r cyfle i brynu neu werthu hyd at 5 diwrnod
  • Bonws blynyddol o hyd at £1,500
  • Cynllun pensiwn blaenllaw, gyda chyfraniad o 8% gan y cwmni pan fyddwch yn cyfrannu 4%
  • Polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd, gan gynnwys blwyddyn o absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu â thâl
  • Cynllun Sharesave
  • Hyfforddiant a datblygiad pwrpasol drwy ein Hacademi
  • Cynllun cerbydau trydan a dau ddiwrnod gwirfoddoli â thâl y flwyddyn

AWN ATI

Allwn ni ddim aros i glywed gennych! Sicrhewch fod gennych CV wedi’i ddiweddaru yn barod a phum munud i wneud cais.

Skills

Apply

See also